Hafan

Hafan

Croeso i wefan Cristnogaeth 21
Mae’r dewisiadau uchod yn eich arwain i wahanol adrannau o fewn y wefan.

 

Apêl Ariannol C21

Datganiad Tai C21

 

cristnogaeth21logocul

Amdanom Ni:
Dewch yma i ddysgu rhagor am Cristnogaeth21

 

Agora 2016 04Agora:

Dyma lle y gwelwch ein cynnwys digidol misol. 

 

 

 Newspapers 2 Newyddion:    

Bob hyn a hyn, byddwn yn trefnu encil, cynhadledd flynyddol neu gyfarfod arall. Bydd yr holl fanylion yn ymddangos yma. Mae croeso i fudiadau eraill anfon eitemau newyddion atom i gael eu cynnwys yn yr adran hon.

Bwrdd Clebran:
Mae’r Bwrdd Clebran bellach wedi ei ddiddymu.

Cysylltwch drwy Facebook neu e-bost (Gweler isod).

 

 Archif:     Ar y botwLlyfraum Archif, rydym wedi cynnwys pedair adran. Cewch weld yr holl erthyglau sydd wedi ymddangos ar ein gwefan yn y gorffennol, yn ogystal â’r negeseuone-fwletin a ddosbarthwyd dros y blynyddoedd, a chasgliad o ddolenni a fedrai fod yn ddefnyddiol. Yn olaf, fe welwch yma hefyd gasgliad o negeseuon a ddaeth i law am y wefan yn gyffredinol.

Croeso atom, a gobeithio y byddwch yn mwynhau’r wefan.  

CEFNDIR CRISTNOGAETH 21

Sefydlwyd Cristnogaeth 21 yn y flwyddyn 2007, a dilynwyd hynny gyda chreu gwefan a lansiwyd yn swyddogol ar Ragfyr 1af 2008. Denodd hynny gryn sylw ar y radio, ar deledu, yn y cylchgronau enwadol ac mewn papurau dyddiol ac wythnosol. Y bwriad oedd cyhoeddi erthyglau ar wahanol bynciau fel bod modd cael llwyfan i safbwyntiau nad ydynt yn cael sylw yn y papurau enwadol.

Maes o law, dechreuwyd dosbarthu neges wythnosol drwy e-bost i bawb sydd wedi mynegi dymuniad i’w  derbyn, sef cyfanswm o tua 250 o bobl i gyd. Dyma’r e-fwletin wythnosol fel y byddwn ni’n cyfeirio ato. Caiff y neges hon ei hysgrifennu gan griw o tua 30 o unigolion sy’n cymryd eu tro i’w llunio, ac mae’r ymateb i’r negeseuon hyn yn gynnes a chefnogol iawn, hyd yn oedd os nad yw pawb yn cytuno â’r cynnwys bob tro. Os hoffech chi dderbyn yr e-fwletin, neu fod yn un o’r awduron, rhowch wybod i ni.

Efallai mai’r cam mwyaf cyffrous ar y wefan oedd agor y Bwrdd Clebran, sef fforwm i drafod gwahanol safbwyntiau yn onest ac agored, heb i unrhyw un deimlo ei fod ef neu hi yn cael eu beirniadu am beidio coleddu syniadau sydd, fel arfer, yn perthyn fwy i’r brif ffrwd ddiwinyddol yng Nghymru. Erbyn hyn, daeth Facebook i gymeryd lle’r Bwrdd Clebran, felly byddwn yn didddymu’r botwm hyn yn fuan. Os ydych am ymateb, postiwch neges ar Facebook neu anfonwch e-bost at cristnogaeth21.gmail.com

Facebook-create

Erbyn hyn, mae dros 265 o bobl yn ein dilyn ar Facebook, ac rydym yn ddiolchgar i’r criw bach diwyd sy’n cynnal y presenoldeb hwnnw.

 

Os hoffech chi ymuno â’r grŵp hwn, ewch draw i dudalen Facebook i ymuno yn y sgwrs.

https://www.facebook.com/groups/673420236088661/?fref=ts

Mae gan Cristnogaeth 21 hefyd bresenoldeb at Twitter. https://twitter.com/Cristnogaeth21

 

 

Datganiad Preifatrwydd

GDPR. Mae Cristnogaeth 21 yn parchu preifatrwydd unigolion. Nid yw’r wefan hon yn casglu nac yn dosbarthu manylion y rhai sy’n ymweld â hi. Defnyddir pecyn ystadegol Google Analytics i gasglu data di-enw am nifer yr ymweliadau â’r wefan, a nifer o fanylion technegol, ond nid yw’r data wedi’i gyplysu â gwybodaeth am unigolion.

Yn yr un modd, y mae nifer helaeth o ddolenni ar y wefan hon sy’n arwain y defnyddiwr at systemau eraill allanol, ac mae’n bosib bod rhai o’r rheini yn casglu data am y rhai sy’n eu defnyddio.

Yn ogystal â darllen ‘e-fwletin C21’ ar y wefan, mae modd tanysgrifio i’w dderbyn trwy ebost. Defnyddir system MailChimp, sy’n cydymffurio yn llwyr â gofynion GDPR i’w ddosbarthu. 

Mae Cristnogaeth 21 yn elusen gofrestredig (Rhif 1011618) sydd hefyd 
yn cael ei hadnabod fel 'Llusern'.